Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2015 |
|
|||
Amser: |
08.32 - 08.45 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Paul Davies Jane Hutt Alun Ffred Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd. Yn ei habsenoldeb, cadeiriodd y Dirprwy Lywydd y cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Elin Jones ac Aled Roberts. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ran Elin Jones.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Bydd cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu gwneud yn syth ar ôl y Datganiad Busnes.
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dyddiad y ddadl eleni ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, a chafodd drafodaeth ynghylch ffurf y ddadl honno.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 24 Mehefin 2015. Cytunwyd hefyd y dylai'r ddadl gael ei chynnal ar yr un ffurf eleni â'r dadleuon a gynhaliwyd yn y ddwy flynedd flaenorol, sef dadl dwy awr yn unig, heb unrhyw ddatganiad.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 24 Mehefin 2015
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Trafododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a nodwyd pryderon y Pwyllgor ynghylch amserlen arfaethedig Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Yn ogystal, nododd y Rheolwyr Busnes siom y Pwyllgor am y ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru, wrth reoli ei rhaglen ddeddfwriaethol, wedi rhoi mwy o ystyriaeth i effaith y rhaglen hon ar Bwyllgorau'r Cynulliad.
Cytunodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth i adolygu, gyda chyngor gan swyddogion Comisiwn y Cynulliad, goblygiadau ymarferol ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 1 ar y Bil, yn unol â chais y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf.
5 Pwyllgorau
5.1 Y Pwyllgor Menter a Busnes: Cais i ymweld â Brwsel a Lwcsembwrg
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Menter a Busnes i ymweld â'r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel a Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg o ddydd Mercher 24 Mehefin tan ddydd Gwener 26 Mehefin 2015.